Faint yw'r tocynnau?
Gallwch ganfod y cyfan am ein prisiau ar y tudalen tocynnau
Fyddai'n derbyn fy nhocynnau drwy'r post?
Na, mae'r tocynnau yno i'w casglu pan wyt ti'n cyrraedd ar Ddydd Gwener ger mynedfa yr ŵyl.
O oes tocynnau dydd ar gael?
Yn fyr, na, sori. Un o wreiddiau'r digwyddiad a'n
prif obeithion yw creu cyfle ar gyfer y grwpiau o gyfeillion sy'n
mynychu, i gyfarfod a chymysgu, i fwynhau ac archwilio
cerddoriaeth newydd, syniadaeth a gwedd newydd ar bethau. Dyma pam
y cyfyngir nifer y tocynnau i'r digwyddiad, a pham eu bod ar gael
yn inig ar gyfer y penwythnos cyfan – dêl pecyn ydyw. Wrth gwrs
mae croeso i ti droi mewn ac allan, hepian, cyrraedd yn hwyr –
mae fyny i ti. Allwn ni ddim dychmygu am eiliad y byddi'n falch dy
fod wedi aros am ddiwrnod yn unig!
Our apologies, this section is awaiting translation.
Part of the roots of this event, and one of it's major hopes, is to provide a forum for the fluid groups of friendships in attendance to mingle and mix, to enjoy and explore new music, new conversation, new views and ideas.
We now recognise that local people from communities nearby, itching to come to Ymuno Festival, might not want to camp on their own doorstep! So, in light of that, and wanting to be as far-reaching and accessible as possible, we are offering reduced rate day-tickets to local North Wales communities.
Pryd allaf gyrraedd?
Agorir giatiau'r gŵyl am 5yh, Dydd Gwener 1af Gorffennnaf. Bydd angen cofrestru pan gyrhaeddi, yna gelli osod dy babell a chillio 'mas...
Sut allaf brynu tocynnau all-lein?
Edrych ar y tudalen Cysylltwch, danfonnwch neges at Cate, fe sorti'th hi bethau i chi.
Beth os oes gen i alergedd campio?
Mae yna fusnesau Gwely a Brecwast a gwestai arbennig yn y cylch. Sylwch ar y côd post a safle union y gŵyl ar ein tudalen Lle & Phryd a googlwch!
Ga'i ddod ag offeryn fy hun i'w chwarae?
Siwr iawn, bydd lle ac amser ar gyfer jamio ac ati: djembe, gitâr, telyn, ucelele, casŵ... ond byddwch yn ffeind i'ch cymdogion wedi hanner nos.
Ga'i ddod â'm diod fy hun?
Wel, os wyt ti mi fyddi'n colli allan ar gwrw lleol go iawn o Fragdy Pen y Gogarth a'r diodydd hynod o fragdy'r Purple Moose. Byddem yn gartef hefyd i'r bar goffi bendigedig yr 816 Espresso – ond mae i fyny i chi. Ond i chi wybod mae polisi 'dim gwydr' dros holl safle'r ŵyl. Plîs peidiwch dod ag unrhyw boteli gwydr i'r maes.
Bydd awyrgylch addas i'r teulu yn yr ŵyl?
Mwynhaodd y teuluoedd ddaeth i Gŵyl Ymuno 2010 yr awyrgylch cyfeillgar, diogel yr ŵyl, a'u plant hwy oedd y cyntaf i godi a dawnsio drwy'r dyddiau braf gan ddwyn eu 'vibe' eu hunain i'r lle. Ein gobaith yw y dônt yyn eu holau eleni, ac efallai y bydd ambell stondin paenito wynebau ar gael!
Eleni 'da ni eto'n gwerthu tocynnau ar gyfer y rhai dan-12 oed am bris gostyngol, ac mae polisi dim tocynnau ar gyfer oedolion ifanc (rhwng 13-17) ar eu pen eu hunain. Ond 'da ni'n bositif iawn o blaid oedolion ifanc, ac os ydych am ddod a hwy yn rhan o deulu neu grŵp nid yw'n broblem. Ond byddwch yn ymwybodol o'r pwyntiau canlynol os gwelwch yn dda:-
- Mae dyletswydd gofal yr oedolyn ifanc yn gyfrifoldeb llwyr ac unig y rhiant / gwarchodwr.
- Bydd oedolion ifanc yn atebol bob amser i'w rhiant / gwarchodwr.
- Ni oddefir unrhyw yfed dan oed.
- Ni chaniateir i oedolyn ifanc aros ar y maes heb riant / gwarchodwr.
Os oes unrhyw gwestiwn gennych am ein polisi oedolion ifanc policy plîs cysylltwch
Fydd yna arlwydd llysieuol ar y maes?
Bydd, eleni mae No-Bones-Jones yn ymuno â ni, gan ddod â'i fwydydd ffein a'i wên!
Pa gyfleusterau i'r anabl fydd gennych?
Bydd toiled i'r anabl, a mannau parcio penodol ar ben agosaf y cau i'r gwersyll/mynedfa i'r ŵyl. Cofiwch fod y safle i gyd yn gau ffarm ac felly prin fydd unrhyw arwyneb llyfn megis llwybrau neu ardaloedd wedi ei concridio, bydd hyn yn gwneud mynediad i gadair olwyn yn drafferthus.
Beth modd gwaredu ein sbwriel?
Bydd mannau ail-gylchu yn yr ŵyl. Gofynnwn i chi fynd ag unrhyw sbwriel arall adre gyda chi
Gallwn gynnau tân neu BBQ?
Yn anffodus na – cau fferm yw'r safle, a bydd raid gadael ei dir yn lân a thaclus. Bydd sawl pwll tân mawr o amgylch y safle, ac mae croeso i chi eu mwynhau gyda'ch gilydd – gwell fyth!
Oes raid talu i barcio?
Na!
Oes yna unrhyw gyfleusterau lleol?
Dim felly. Cofiwch, yn anffodus, na fydd unrhyw beiriant arian ar y safle – cofiwch ddod a digon o arian parod ar gyfer y penwythnos! Ni fydd unrhyw system cyfnewid, ni dderbynir gwen hyfryd yn gyfnewid am ddiod wrth y bar, ac ni chewch fwyd yn gyfnewid am fotymau neu stampiau, dewch ag arian cyfreithlon.
Ga'i ddod â'm ci?
Plîs peidiwch, dim byd personol yn eich herbyn na'ch ci – dim anifeiliaid anwes.
Ga'i parcio 'nghar ger fy mhabell?
Pan gyrhaeddi cei dy gyfarwyddo i'r maes parcio a dyna mor bell ac y caiff mynd. Mae'r gwersyll ar gyfer trafnidiaeth di-gerbyd yn unig, ond bydd dim raid cerdded ymhell o'r car gyda dy babell ac ati.
Ga'i ddod â'm carafan / camper van / cerbyd rwy'n byw ynddo?
Eleni mae lle ar gyfer motorhomes a charafanau, mae croeso i chi. Ond mae gofod yn brin, fodd bynnag, felly plîs cysylltwch gyda'ch angehenion penodol.
Oes opsiwn i rannu car i mi fedru cyrraedd y gŵyl?
Mae sawl opsiwn teithio i chi ystyried, megis ar gefn morfil, carped swynol yn ogystal â rhannu car – beth am weld â oes enaid hoff gytun o'ch cymdogaeth yn gyrru yma ac yn cynnig lifft – dyma modd hyfryd, cyfeillgar, gyfeillgar i'r amgylchedd y gellir ei geisio ar Fwrdd Trafod Gŵyl Ymuno ar Facebook.