GŴYL YMUNO / 2011 YMUNO FESTIVAL / 2011

PWY SY'N CHWARAE


Bryn Ffanigl Ganol Farm
Abergele
Conwy, Cymru

PRYNU TOCYNNAU PRYNU TOCYNNAU



Foy Vance

Foy Vance

Sadwrn 2il Gorffennaf 2011 gwefan fideo

Mae cerddoriaeth Foy yn siwrne esblygol, yn ymchwil cyson am fynegiant sy'n dal y foment, mae'n gweithredu ymhell tu hwnt i safonau'r diwydiant. Byddwch siwr o glywed adlais o Otis Redding, Richie Havens, Tom Waits a Van Morrison yng ngherddoriaeth Foy, cerddorion o fri y mae eisioes i'w gymharu â hwy ac sy'n ddylanwad arno. Mae Foy yn ei wyleidd-dra yn chwerthin ar y cymhariaethau, ond dyma sy'n ei wneud mor arbennig.

Wedi swyno'r dyrfa drwy ei berfformiad rhyfeddol gyda Cherddorfa Symffoni 70-offeryn Ulster yng nghyngerdd Orchestral Manouevres y BBC yn Belfast, mae Foy ar hyn o bryd ar daith drwy'r DU a bydd yn ymweld â sawl gŵyl drwy gydol yr haf.

Middleman

Middleman

Gwener 1af Gorffennaf 2011 gwefan fideo

"Middleman make bouncy, vibrant, ridiculously catchy tunes that stand out a mile from everything else around at the moment." RADIO ONE

"Huge pop choruses, bouncy intros and hooks you will not be able to forget even after 15 pills and a weekend stuck in traffic on the M1." NME

"Zane Lowe, Steve Lamacq and XFM are already onto this lot – hopefully the rest of the pack will catch up." MUSIC WEEK

John Smith

John Smith

Sadwrn 2il Gorffennaf 2011 gwefan fideo

Mae John Smith yn gitarydd o Dyfnaint, sy'n dawel bach yn cael ei adnabod yn un o leisiau cyfrous y sîn Gwerin Brydeinig. Mae wedi cefnogi John Martyn, Iron and Wine, Seth Lakeman, Davy Graham, John Renbourn, David Gray, Cara Dillon, Martin Carthy, Jools Holland, Tinariwen a Kelly Joe Phelps, ymhlith eraill.

"Brilliant" **** MOJO. "Utterly engrossing, earthy and compelling" **** R2. "Map Or Direction finds his own unselfconsciously mythic songwriting bolstered by rippling guitar parts and a wounded-bear bray. Great things are ahead" The Sul Times.

Cat Fish & The Bottle Men

Cat Fish & The Bottlemen

Gwener 1af Gorffennaf 2011 myspace fideo

Mae Catfish And The Bottlemen, band o Landudno, wedi ysgubo eu ffordd drwy'r DU gan ennill adolygiadau canmolaethus ar eu taith 20 cyngerdd diweddar. Maent yn band ffres a chyffrous ac fe'u nodwyd yn ddiweddar yn rai i'w gwylio yn 2011 yn Total Guitar Magazine.

Karima Francis

Karima Francis

Sadwrn 2il Gorffennaf 2011 gwefan fideo

Cyfansoddwraig a chantores ifanc o Blackpool yw Karima Francis. Mae ganddi ystod a phwer eang yn ei pherfformiad, ac wedi ei thebygu i Joan Armatrading ifanc, ond gyda steil unigryw ei hun.

Drwy 2007 by Karima yn ymdeithio ymhell, yn brif act ac yn cefnogi cerddorion eraill megis Seth Lakeman a James Morrison. Bu iddi perfformio hefyd mewn digwyddiadau arbennig megis gŵyl SXSW yn Austin Texas.

Honey Feet

HoneyFeet

Sadwrn 2il Gorffennaf 2011 gwefan fideo

Rae Morris

Rae Morris

Gwener 1af Gorffennaf 2011 gwefan fideo

Mae Rae Morris yn gyfansoddwraig a chantores 18oed o Blackpool. Dysgodd y piano yn ifanc ond drwy danbrisio ei gallu dim ond yn ddiweddar mae hi wedi darganfod ei llais.

Gallwch wneud cymhariaethau, ond byddwch yn sicr o sylwi ar hogan aeddfed tu hwnt i'w hoed. Drwy blethu ei llais hynod gyda chaneuon o brofiadau newydd, rhai megis her cariad a methu canfod yr atebion bob amser, mae Rae yn ymgorfforiad o'r amrwd ac yn honi dim mwy.

The Mouse Outfit

The Mouse Outfit

Sadwrn 2il Gorffennaf 2011 myspace fideo

Gan ymddangos yn ddiweddar ar The Craig Charles Funk Show, y Soul Show ar BBC6 a sioe Homegrown Ras Kwame ac ar podlediadau BBC 1Extra, mae The Mouse Outfit ar i fyny... Newydd orffen yn stiwdio chwedlonol Maida Vale y BBC – mi fydd yr act byw 8-darn hip hop ffync yma yn eich sgubo chi i fyny i ddawnsio'n droednoeth!

Chloe Leavers

Chloe Leavers

Gwener 1af Gorffennaf 2011 facebook fideo

Mae Chloe Leavers yn gyfansoddwraig a chantores â thalent aruthrol o Ogledd Cymru. Fe ryddhawyd ei record cyntaf, All These Things, yn ddiweddar ac fe disgrifiwyd ei cherddoriaeth yn 'jyst gorgeous' gan Tom Robinson, BBC 6 Music, gan swyno chlustiau y rhai sy'n ei glywed ac yn ei gweld hi'n perfformio'n fyw.

YOUNGMEN

YOUNGMEN

Sadwrn 2il Gorffennaf 2011 fideo

Band pop new wave ffurfiwyd ym Mawrth 2011 yw Youngmen. Ar y blaen mae Ben Adey (llais/bas), gyda Ross McOwen (gitâr) a Jason Howard (drymiau), eu dylanawadwyr yw artistiaid megis Roxy Music, the Strokes a Talking Heads ac eraill.

Mae sain y triawd yn fframio band wedi ei cyfareddu gan syniadau newydd a cherdd pop amgen. Croeso cynnes roir iddynt gan y beirniaid. Ar hyn o bryd mae YOUNGMEN yn recordio eu EP cyntaf.

The trio’s sound frames a band enthralled by new ideas and alternative pop music. It is being met with warm reception from critics. YOUNGMEN are currently recording their debut EP.

Matt Deficit

Matt Deficit

Sadwrn 2il Gorffennaf 2011

Gallwch ddisgwyl curiadau a nodau bass dwfn a llawn enaid I gau pen y mwdl yn y Tipi, felly rhowch gorffwys i'ch traed a gadael i'ch meddwl ddawnsio yn lle!

Troelliwr, hyrwyddwr ac aelod gwreiddiol y Locked Soundsystem – mae Matt wedi bod yn gwthio'r sîn gerdd danddaearol ogylch Gogledd Cymru ar cyffiniau dros y 9 mlynedd diwethaf.

Ers cychwyn yn flaenaf fel troelliwr Drwm & Bass ar ddechrau's degawd diwethaf, mae arlwy Matt wedi ehangu'n fawr. Erbyn hyn gall ei fod yn troellio rhywbeth o dub, dubstep a garage hyd deep & tech house, techno ac unrhywbeth rhyngddynt.